Ysgol Glan-y-Mor

Ysgol Bryngwyn School Ysgol Bryngwyn School

Careers Wales launch home-schooling resources as part of Welsh Government Stay Safe

The Wales-wide live chat with expert careers advisers that we launched a couple of weeks ago is proving popular. This service is available Monday to Friday and is available for young people in schools and colleges, parents/guardians and those children who are normally home-schooled. It's an opportunity for them to discuss any concerns they have about next steps and their future options.

Over the next couple of weeks we will be launching our home-schooling resources as part of the Welsh Government Stay Safe. Stay Learning campaign and we will be promoting this via our social media channels. The resources will include a series of webinars and lesson plans that parents and young people can complete together at home.

We also have a live Q&A for parents with our careers advisers across our Facebook and Twitter channels on Thursday 23 April between 2-3pm. This is another opportunity for parents to chat through any concerns they have about their child's next steps.

Please keep visiting our website and our social media channels for the latest information about accessing our services.

* * * * * *

Mae'r sgwrs fyw ledled Cymru gyda chynghorwyr gyrfaoedd arbenigol, a lansiwyd gennym ryw bythefnos yn ôl, yn boblogaidd. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael ddydd Llun i ddydd Gwener, ac mae ar gael i bobl ifanc mewn ysgolion a cholegau, rhieni/gwarcheidwaid, a'r plant hynny sydd fel arfer yn cael eu haddysgu gartref. Mae'n gyfle iddynt drafod unrhyw bryderon sydd ganddynt ynglÅ·n â'r camau nesaf a'u hopsiynau ar gyfer y dyfodol.

Yn ystod yr wythnos neu ddwy nesaf byddwn yn lansio ein hadnoddau addysgu gartref fel rhan o’r ymgyrch Cadw'n Ddiogel. Dal ati i Ddysgu gan Lywodraeth Cymru, a byddwn yn hyrwyddo hyn trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Bydd yr adnoddau'n cynnwys cyfres o weminarau a chynlluniau gwersi y gall rhieni a phobl ifanc eu cwblhau gartref gyda'i gilydd.

Hefyd, rhwng 2-3yp ddydd Iau 23 Ebrill bydd gennym sesiwn Holi ac Ateb ar gyfer rhieni gyda'n cynghorwyr gyrfaoedd ar ein sianeli Twitter a Facebook. Dyma gyfle arall i rieni gael sgwrs am unrhyw bryderon sydd ganddynt ynglÅ·n â'r camau nesaf y bydd eu plentyn yn eu cymryd.

Cofiwch barhau i edrych ar ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynglÅ·n â chael gafael ar ein gwasanaethau.